The hunt for 8.4 million Welsh-speaking telly addicts (yng Nghymraeg!)
If you'd like to read this article in English you can find it here.
"Rwy'n siwr y bydd ef yn croesawu'r newyddion yn adroddiad blynyddol S4C fod 8.4 miliwn o bobl yn gwylio S4C pob wythnos yn y DU - cynnydd o 10% o'r flwyddyn flaenorol." - Y Farwnes Neville-Rolfe, Gweinidog dros ddarlledu, Gorffennaf 14eg 2015.
Honiad: Mae 8.4 miliwn o bobl yn gwylio S4C pob wythnos yn y DU.
Dyfarniad: Mae adroddiad blynyddol S4C yn dweud mai'r ffigwr cywir yw 578,000 person yr wythnos.
S4C yw'r unig sianel deledu iaith Gymraeg yn y byd, ond gyda dim ond 3.1 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru mae 8.4 miliwn o wylwyr wythnosol yn ffigwr tra ryfeddol.
Mae'r honiad yn anghywir, a dyw hi ddim yn glir beth oedd y Gweinidog yn ceisio ei ddweud. Yn ôl adroddiad blynyddol S4C:
- Mae 578,000 o bobl yn gwylio S4C yn y DU pob wythnos ar gyfartaledd, lawr o 599,000 yr wythnos yn 2012.
- Pob mis, y ffigwr yw 1.4m ( fyny o 1.3m, cynnydd o bron i 10%)
- Pob blwyddyn, y ffigwr yw 6.5m (fyny o 5.3m, cynnydd o 23%)
Mae'r adroddiad hefyd yn dangos fod pob gwyliwr yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn gwylio 8 awr a 4 munud o S4C pob wythnos. Mae'n bosib mae dyma'r ffigwr achosodd y camddealltwriaeth. Mae'r ffigwr hwn wedi cynnyddu o'r 7 awr 53 munud y flwyddyn flaenorol, ond nid yw hyn yn gynnydd o 10%.
Mae'r ffigyrau hyn yn dod gan BARB (Broadcasters' Audience Research Board), ffynhonnell safonol ar gyfer ffigyrau gwylwyr yn y DU.
I edrych ar y mater o ongl wahanol, yn ôl arolwg S4C o 483 o siaradwyr Cymraeg ar eu defnydd o'r iaith yn ei bywydau dydd i ddydd, roedd 70% wedi gwylio teledu Cymraeg yr wythnos flaenorol. Gyda 562,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn ol Censws 2011, mi fysai hyn yn awgrymu fod tua 393,000 o siaradwyr Cymraeg yn gwylio teledu Cymraeg pob wythnos.
Pa bynag ffordd yr ydych yn edrych ar y data, mae'n glir ma rhyw hanner miliwn o bobl sydd yn gwylio teledu Cymraeg pob wythnos. Yn sicr does dim 8.4 miliwn!
The new 2014/15 S4C annual report is due to be published next week.
With thanks to @cwlcymro for the translation.